Archive for - Abertillery Online Discussion Forum - Croeso i fforwm Abertyleri ar y we

For the old board click here
 


       - Abertillery Online Discussion Forum - Forum Index -> Sgwrsio am Tyleri
Cymraes

Ysgol un dydd

Hi Pawb
Sut aeth yr ysgol un dydd? Gobeithio mwynheuodd bawb eu hunain gadewch ini wybod sut aeth bethau.
Brythill dyma linc I chi gobeithio byddi di’n ei hoffi e.

http://www.youtube.com/watch?v=kOZlJiOvXsU
Shocked
Brithyll

Roedd y diwrnod yn llwyddoanus iawn gyda thros cant o ddysgwyr yn mwynhau'r profiad. Roedd Glen fel ci gyda dwy gynffon yn gwenu o glust i glust trwy'r diwrnod. Laughing
Dylet ti fod wedi dod hefyd, efallai'r tro nesa? Smile
glenn

Re: Ysgol un dydd

Oooo, aeth e wych! Joyais i'm hunan yn hollol Smile Ro'n i yn Uwch 2, whoo hoo "Crem da la crem" ydwi nawr! LMAO.

Roedd na ddros 120 o bobl yna - pawb yn dysgu a siarad yr Iaith - ffantasteg! Roedd na 'Monopoly' yn Gymraeg yna, a ro'n i'w mor isio Sad Falla bydda i'n ofyn i Sion Corn am fo y Ddolig yma Smile

Cawson ni ddarlithiwr o Hanes Cymreig/Cymru o Abertawe (os dwi'n cofio'n iawn). Roedd hi'n sôn am beth i ddeud wrth pobl sydd aeth i mewn i fel eich Ysgol ac wedi rhoi araith i chi fel "diolch am gyflwyno hwnna mewn ffordd mor ddiddoral" ayb ayb. Ydwi'n gneud ystyr?

Galla i ddim aros tan yr un nesaf Smile Codais i ffrindia hefyd, hehe.

Wedi golygu i adio mwy Smile
Brithyll

Fel dywedais i, roedd Glen wrth ei fodd yn yr ysgol undydd. Fydd neb yn gallu cael gair nawr nos Iau, bydd e'n fwy siaradus nag erioed, os credech chi hynny. Laughing

Dwi'n falch bod y diwrnod mor llwyddiannus, mae sawl wedi gweithio yn galed iawn tuag at y digwyddiad. Diolch yn fawr iddynt.

Diolch am y linc, Cymraes, doniol iawn. Smile Dwi'n nabod y fenyw yn y ffilm hefyd yn ceisio i ddysgu Ali i 'hoffi' rhywbeth. Rhaid iddo fe fod yn dwp. Rolling Eyes
Cymraes

Hi Pawb
Mae flin ‘da fi am yr oedi yn ateb i’ch negeseuon ond dyn ‘ni wedi bod yn addurno a doedd dim amser ‘da fi o gwbl.

Diolch Brithyll ~ hoffwn i gael benthyg o’r CD os dim ots ‘da ti diolch yn fawr iawn. Rwy’ wedi bod yn chwilio am a CD pob man enwedig ar y we, does dim arôl ar Play.com o gwbl roedden nhw’n cael ei gwerthu yn llwyr, mae Dafydd Iwan yn boblogaidd iawn ~ gwych!!

Fel ron’in dweud, rwy’ wedi bod yn peintio ac ati ar y grisiau a dweud y gwir dwy’n falch iawn bod ni’n ei orffen e nawr, diolch byth!!

Mae’n neis iawn i glywed aeth yr ‘ysgol un dydd’ yn dda, gobeithio bydd rhai o’r dysgwyr ~ wel un rhywun yn dod i’r hen ganolfan nos Iau, ddwedest ti wrthyn nhw Brithyll?

Oh! fydd Glenn Idea ddim stopio’n siarad nawr enwedig mae e wedi bod yn rhwbio ysgwyddau gyda’r deallus ~ ‘Steven Hawkins’ o’r byd Cymraeg bydd e o hyn ymlaen.
Rolling Eyes
Brithyll

Dof fi á'r CD nos Iau 'te.

Yn ol mam Glen prynnodd e'r nofel 'Hogan Horni', sy'n nofel rhywiol iawn! Gobeithio, oherwydd ei fod e''n mor ifanc a diniwed, fydd dim rhaid i ni esbonio popeth wrtho fe. Wink Bydd Mary yn gallu cael gair 'da fe, dyw hi ddim yn swil. Smile
Cymraes

Wel mae rhaid i fi gytuno â thi ynglyn â Glenn
Ble mae e tybed? Siwr o fod mae e’n colli yn ei lyfr yn ei fyd ffantasi wyt ti’n meddwl? Gobeithio daw e â’r llyfr ‘da fe nos Iau, bydd rhaid i ni edrych ar lyfr hyn a siecio fe allan rhag ofn mae e’n rhy synhwyrus amdano fe Embarassed ~ bydd rhaid i ni esbonio popeth arno fe achos dim ond babi ydy e Rolling Eyes
Brithyll

Dwi'n cytuno á ti am Glen, dim ond baban yw e, dylai ei fam esbonio am fywyd ac ati wrtho. Embarassed Bydd ei drwyn yn y llyfr am sbel nawr a fydd e ddim yn ymddangos tan diwedd y tudalen olaf. Shocked Mae'r un llyfr 'da fi hefyd ond mae'n rhy beryglus i'w ddarllen ar y trén rhag ofn bod rhywun yn spio dros fy ysgwydd sy'n siarad Cymraeg ac yn cwyno wrth gard y trén. Efallai bydda i'n cael fy nhaflu bant o'r trén wedyn mewn lle unig. Mad

Ta beth, mae Glen yn hapus a dyna beth sy'n bwysig. Smile
glenn

I bawb:

LOL, paid a becso amdanaf i, fi wedi clywed lot gwaeth o be' sydd yn y llyfr na - cyfrifoldebwch fi (efo'r math o ffrindia sy efo fi Smile).

Hefyd, fi bron yn 19! LOL, felly dyna'n golygu 'mod i'n 18 ar hyn o bryd, felly oedolyn dwi rŵan. Ond ia, dal i faban ydw i wedi cymharu i chi'r llawer, sy'n old foggies! Hahahaha.

A Jeff, dwedais i'n barod wrth Kath, felly rŵan mae'n edrych fel mae rhaid imi ddeud wrthet ti - mae gen i ddau N yn f'enw i, nid un Evil or Very Mad ! LOL
Brithyll

Mae'n flin 'da fi am yr N, Glenn Laughing Siarada i a'th mam nos Lun nesaf am addasrwydd y llyfyf hwn. Wink Bydd hi'n ei ddarllen gyda'i geiriadur yn un llaw a'r nofel yn ei llaw arall. Shocked
Anghofiais ddweud wrthot ti, Glenn.........paid ag anghofio i anfon dy lythyr at Sion Corn, mae'r amser yn hedfan a dwi ddim eisiau i ti fod yn rhy hwyr. Laughing Daw'r Nadolig yn gyflym iawn.

       - Abertillery Online Discussion Forum - Forum Index -> Sgwrsio am Tyleri
Page 1 of 1
Create your own free forum | Buy a domain to use with your forum